Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Cymru
Ers canrifoedd, mae ffynhonnau a ffynhonnau dŵr wedi cael eu hystyried yn leoedd o sancteiddrwydd arbennig. Mae llawer wedi’u cysegru i seintiau Celtaidd cynnar y 5ed a’r 6ed ganrif, ac roedd crêd fod rhai ohonynt yn meddu ar briodweddau iachau penodol. Byddai pererinion yn aml yn teithio pellteroedd sylweddol yn y gobaith o gael gwellhad. Mae llawer ohonynt yn parhau’n fannau ysbrydol byw arwyddocaol hyd heddiw.
Ffynhonnau ar Hyd Ein Llwybrau
Mae Ffynnon Gwenfaen wedi’i lleoli ger ymyl clogwyn ar hyd y llwybr arfordirol ger Rhoscolyn yn un o’r siambrau ffynhonnau sydd wedi’i chadw orau ar Ynys Môn. Mae wedi’i chysegru i santes sy’n gysylltiedig â gwella salwch meddwl. Roedd yn arferiad i roi dwy garreg gwarts wen i mewn i’r dŵr. Mae’r ffynnon yn dal i gael ei bendithio bob blwyddyn ar Dachwedd y 4ydd, sef dydd gŵyl Gwenfaen.
Hefyd ym Mhenmon ar Ynys Môn, credir bod Ffynnon Seiriol yn dyddio’n ôl i’r fynachlog o’r 6ed ganrif a sefydlwyd yno gan y sant ei hun.
Dywedir bod Seiriol a’i gyfaill Cybi yn cerdded yn rheolaidd i gyfarfod â’i gilydd wrth Ffynhonnau Clorach ger Llannerchymedd — dwy ffynnon sy’n union gyferbyn â’i gilydd ar ddwy ochr y ffordd, er nad oes llawer o dystiolaeth ar ôl ohonynt heddiw.
Ar Benrhyn Llŷn, mae Ffynnon Gybi yn Llangybi wedi bod yn fan pererindod iachaol ers canrifoedd ac yn fan naturiol i bererinion sy’n teithio i Ynys Enlli gael seibiant.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ffynhonnau sanctaidd a ffynhonnau dŵr yng nghanllaw cynhwysfawr Ian Taylor: https://wellhopper.wales





