Llwybr Cybi a Seiriol

Hafan > Eglwysi > Llwybr Cybi a Seiriol

Cybi Sant, Caergybi

Un o eglwysi mwyaf mawreddog a hanesyddol Ynys Môn, mae Cybi Sant yn sefyll o fewn muriau caer Rufeinig o’r 4edd ganrif. Adferwyd yr eglwys yn eang ym 1877 gan y pensaer enwog Syr George Gilbert Scott. Y tu mewn, mae Capel Stanley yn cynnwys gwydr lliw gogoneddus gan William Morris a Syr Edward Burne-Jones, a beddrod godidog o farmor Carrara Eidalaidd sy'n dangos ffigwr yn gorwedd wedi’i warchod gan angylion, i goffáu William Owen Stanley, un o gymwynaswyr mwyaf Caergybi.

Mae Eglwys y Bedd, yr adeilad wrth ymyl yr eglwys, yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ond y gred yw mai dyma fan claddu Sant Cybi yn 555 OC.

Stanley Street, Caergybi LL65 1HG
W3W: https://w3w.co/cubes.centrally.shook
Oriau agor: Mae gwirfoddolwyr eglwys Sant Cybi ar y safle 11am - 3pm Dydd Llun tan Dydd Gwener
Parcio: Y maes parcio agosaf yw Swift St ger yr eglwys. Terfyn amser 2 awr.
Mae parcio 2 awr hefyd ar ffordd yr arfordir gyferbyn â giât isaf y fynwent.
Mae parcio am gyfnod hirach ar gael wrth ymyl Mr Chippy (tuag at Draeth Newry).
Toiled: yn y dref (yn Neuadd y Farchnad / y Llyfrgell).
Gwefan: www.holyheadparishchurches.co.uk/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/27500

Sant Cybi, Caergybi

Santes Gwenfaen, Rhoscolyn

Ar safle uchel gyda golygfeydd ysgubol ar draws Eryri a Phen Llŷn, mae gwreiddiau eglwys Santes Gwenfaen yn dyddio'n ôl i 630 OC, pan ddywedir i'r santes ei hun sefydlu ei chell yma. Wedi'i hailadeiladu yn y 1870au gan Syr George Gilbert Scott, mae'r eglwys yn drysordy o grefftwaith Fictoraidd, gan gynnwys gwydr lliw trawiadol a ddyluniwyd gan Syr Edward Burne-Jones a James Hogan, ffont o'r 15fed ganrif a reredos mosaig gwydr prin.

LL65 2SQ
W3W: https://w3w.co/shuttled.traders.repay
Ar agor 8am-y cyfnos.
Parcio: ar y ffordd o amgylch yr eglwys neu rownd y gornel ger Neuadd yr Eglwys.
Mae’r toiled agosaf yn nhafarn The White Eagle neu Neuadd yr Eglwys os ydynt ar agor.
Gwefan: https://stgwenfaen.org/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/43597

Santes Gwenfaen

Bigail Sant

Gyda gwreiddiau wedi'u cofnodi mor bell yn ôl â 1254, mae cymeriad presennol yr eglwys hirsgwar syml hon yn deillio o gyfnod yn yr 18fed ganrif pan gafodd ei hailadeiladu gan sgweier lleol, William Morris ac ail-luniad Fictoraidd ym 1841. Mae ei thu mewn yn gofnod cymdeithasol ddiddorol – corau caeedig i'r bonedd yn y pen dwyreiniol, meinciau heb gefn i'r tlodion i'r gorllewin, a phulpud deulawr uchel ar y wal ogleddol. Yn fwyaf rhyfeddol, mae rhes o dri ffont ar hyd y wal orllewinol, sy'n rhychwantu saith canrif o addoli Cristnogol ar y safle hwn.

Mae eglwys Bigail Sant erbyn hyn yng ngofal Friends of Friendless Churches.

Llanfigail, LL65 4DB
W3W: https://w3w.co/education.seriously.asterisk
Ar agor bob dydd
Parcio: ar y ffordd o amgylch yr eglwys
Gwefan: friendsoffriendlesschurches.org.uk/church/st-bigails-llanfigael-anglesey/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/43143

Bigail Sant

Pabo Sant

Mae Eglwys Pabo Sant wedi'i chysegru i Pabo, Brenin Gogledd Prydain o'r 6ed ganrif (Yr Hen Ogledd), a gafodd noddfa ar Ynys Môn ar ôl cael ei ddiarddel o'i diroedd. Byddai llechen ei fedd ar y wal ogleddol - wedi'i gerfio â ffigwr brenin barfog wedi'i goroni, a gyda’r arysgrif- Hic Iacet Pabo Post Prud - wedi bod yn rhan o'i gysegrfa ar un adeg ac mae'n parhau i fod yn un o drysorau canoloesol cynnar mwyaf atgofus Ynys Môn.

Llanbabo, Rhosgoch LL66 0BL.
W3W: https://w3w.co/speaker.bars.shred
Ar agor bob dydd
Parcio: ar y ffordd o amgylch yr eglwys
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/91214

Pabo Sant

Tyfrydog Sant

Dywedir iddi gael ei sefydlu yn y 5ed ganrif gan Tyfrydog Sant, ac mae gan yr eglwys atmosfferig hon chwedl hynod iawn: cafodd lleidr a oedd wedi dwyn Beibl ac a oedd yn ffoi ar draws y caeau, ei droi'n garreg gan y sant, ac mae ei ffurf wedi'i orchuddio â chen yn dal i’w weld yn sefyll yn y caeau i'r de - rhybudd bythol i droseddwyr. Er gwaethaf dau adferiad Fictoraidd, mae'r eglwys wedi cadw llawer o'i chymeriad canoloesol, gan gynnwys bwa cafell cain o'r 15fed ganrif, ffenestri Gothig, a chorau caeedig dymunol arddull Sioraidd o adferiad 1832.

Lôn Leidr
Llandyfrydog, LL71 8AG
Ar gau ar hyn o bryd ar gyfer atgyweiriadau
W3W: https://w3w.co/tree.dramatic.carriage
Parcio: ar y ffordd
Gwefan: friendsoffriendlesschurches.org.uk/church/st-tyfrydogs-llandyfrydog-anglesey/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/43649

Tyfrydog Sant

Mihangel Sant

Yn sefyll ar yr hyn a fu unwaith yn safle llys brenhinol Tywysogion Gwynedd, mae'n bosibl bod Mihangel Sant wedi gwasanaethu fel capel brenhinol cyn i Edward I orchfygu Gogledd Cymru yn 1282. Mae gan yr eglwys drawstiau to gangell canoloesol a nodweddion o'r 15fed ganrif o hyd gan gynnwys y ffenestr ddwyreiniol, y drws gogleddol a'r bwa cangell. Y tu mewn, mae carreg o'r 6ed ganrif wedi'i harysgrifio â'r Lladin 'Hic iacit Maccudecceti' – 'yma mae Maccudecceti yn gorwedd'. Ym mynwent yr eglwys mae 45 o ddioddefwyr llongddrylliad trasig y Siarter Frenhinol yn 1859 wedi'u claddu. Mae'r rhan fwyaf o'r dioddefwyr eraill yn gorwedd yn eglwys Llanallgo gerllaw.

LL71 8BW
W3W: https://w3w.co/turntable.reserved.spaceship
Parcio: ar y ffordd
Ar agor bob dydd
Gwefan: broeleth.churchinwales.org.uk/stmichael/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/43634

Sant Mihangel, Penrhoslligwy

Gallgo Sant

Wedi'i sefydlu yn y 6ed ganrif gan Gallgo Sant, mae'r eglwys bresennol yn ganlyniad i ddau adferiad yn y 19eg ganrif. Mae ei chloch o'r 13eg ganrif, wedi'i harysgrifio Ave Maria gracia plena ac arni hefyd mae argraff ceiniog Edward I, ymhlith yr hynaf yn Esgobaeth Bangor. Yn y fynwent mae cofeb ingol: mae 140 o ddioddefwyr llongddrylliad y Siarter Frenhinol yn 1859 sydd wedi'u claddu yma, wedi'u coffáu gan obelisg. Ymwelodd Charles Dickens â'r ardal ar y pryd i ysgrifennu am y drasiedi ac arhosodd yn y Rheithordy drws nesaf.

Llanallgo, LL72 8NE.
W3W: https://w3w.co/denote.modem.puncture
Parcio: Mae maes parcio bach wrth ymyl yr eglwys.
Ar agor bob dydd.
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/43604

Gallgo Sant

Dona Sant

Y gred yw bod eglwys wreiddiol Santes Dona wedi'i sefydlu yn 610 OC i lawr bryn serth ger yr arfordir, sy'n golygu bod hwn yn un o safleoedd Cristnogol mwyaf hynafol Ynys Môn. Ailadeiladwyd yr eglwys bresennol ym 1873 o dan gyfarwyddyd ei Rheithor ei hun, y Parchedig Peter Jones, ac mae ganddi ffont a drws deheuol ei rhagflaenydd o hyd. Manylyn anarferol yw'r garreg sy’n dyddio o 1566 uwchben y ffenestr ddwyreiniol sydd wedi'i gosod wyneb i waered. Mae’r ffenestr ddwyreiniol odidog o 1963 yn gynllun Crist yn ei Ogoniant a ddyluniwyd gan Celtic Studios

Llanddona, Biwmares LL58 8UT.
W3W: https://w3w.co/palace.copying.narrating
Parcio cyfyngedig ar y ffordd ger yr eglwys.
Ar agor bob dydd.
https://broseiriol.net/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/27534

Santes Dona

Mihangel Sant, Llanfihangel Din Sylwy

Mae'r eglwys fechan hon nad yw wedi’i difetha wedi’i lleoli mewn mynwent o fewn golwg y môr, gydag Ynys Seiriol i'w gweld yn glir ar y gorwel. Mae'r tu mewn wedi cadw llawer o'i gymeriad canoloesol, ac mae'r ffenestri plwm gwydr clir yn creu lle â symlrwydd gwych. Mae arysgrif Santa Maria ar y gloch o'r 14eg ganrif a phulpud chweonglog o 1628 wedi'i gerfio'n addurnedig ymhlith ei thrysorau. Heb drydan ac wedi'i goleuo gan ei lampau olew Fictoraidd yn unig, mae'r eglwys hon yn un o fannau mwyaf atmosfferig pererindod i Ynys Môn. 

Llanddona, Biwmares LL58 8YB.
W3W: https://w3w.co/gradually.fortunes.fruits
Parcio: mae mynediad i'r eglwys o'r ffordd ar draws cae. Cyfyngedig iawn ar barcio ar y ffordd.
Ar agor bob dydd.
https://broseiriol.net/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/43631

Mihangel Sant Llanfihangel Din Sylwy

Seiriol Sant, Penmon

Mewn man hiraethus brydferth, sefydlwyd eglwys bren yma gan Seiriol Sant yn y 6ed ganrif. Cymerodd yr eglwys 12fed ganrif bresennol le adeilad cynharach a ddinistriwyd gan ymosodwyr Llychlynnaidd, ac yn ddiweddarach daeth y safle yn briordy Awstinaidd, y mae ei adfeilion yn dal i greu lleoliad dramatig. 

Gall pererinion archwilio'r ffynnon sanctaidd, y ffreutur ganoloesol, y pwll pysgod a'r colomendy yn ogystal â dwy groes garreg odidog o'r 10fed ganrif y tu mewn i'r eglwys, wedi'u cerfio â rhyng-blethu cymhleth mewn arddulliau Gwyddelig a Sgandinafaidd.

Ymhellach i lawr y ffordd, ym Mhwynt Penmon, gallwch alw heibio am goffi yng Nghaffi Tŷ Peilot gan fwynhau'r golygfeydd draw i Oleudy Penmon, yn ogystal ag Ynys Seiriol a thŵr ei heglwys ganoloesol adfeiliedig.

Biwmares LL58 8SP.
W3W: https://w3w.co/zoos.topical.avocado
Parcio: Mae maes parcio Talu ac Arddangos wrth ymyl yr eglwys a safle Cadw.
https://broseiriol.net/
Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safleoedd/301734

Seiriol Sant, Penmon