Ar fore Hydrefol braf, dyma neidio ar fws a chyrraedd Harlech yn griw o dair yn barod i brofi rhan o Lwybr Cadfan .
Cychwyn wrth droed safle gwych Castell Harlech y mae pumed diwrnod pererindod Llwybr Cadfan. I’r chwith o’r castell, wrth gychwyn ar ein taith, dyma stop wrth gerflun a thrafod stori Branwen gyda fy nghyd-gerddwyr gan egluro fod enw fy mab, Gwern yn dod o’r chwedl enwog yma.
Wrth ymlwybro i lawr a dilyn cyfarwyddiadau ar yr ap ‘Outdoor Active’, dyma adael prysurdeb y dref a chyrraedd llwybr hir trwy gaeau a choedwig. Roedd y sgwrs yn llifo, a’r tair ohonom yn adrodd hanesion am deulu, addysg a’n gwaith a chael manteisio ar amser prin mewn bywyd prysur i ddod i adnabod ein gilydd yn well.
Mae’r rhan gyntaf o’r llwybr yma sy’n eich dal ac yn mynnu ennyd i bwyllo a rhyfeddu, yn dod wrth brofi golygfa wych o Afon Dwyryd a Phortmeirion yn y pellter. Mae wir yn rhoi cyfle euraidd i werthfawrogi rhyfeddod Clough Williams-Ellis sy’n denu cymaint i’r ardal.

Ymlaen a ni ac ymlwybro ymhen hir a hwyr i fyny i Eglwys Mihangel Sant, Llanfihangel y Traethau. Eglwys mewn safle braf a chyfle i astudio hen garreg gydag ysgrif Lladin sydd i’w gweld yn y fynwent a chael ennyd i fanteisio ar heddwch tawel yr eglwys i gael ein gwynt atom.
Wrth barhau ar hyd y llwybr, dyma gyrraedd Ynys a safle hen warws diddorol o’r 19eg ganrif. Bu’r tair ohonom yn astudio a thrafod y dirwedd a chael amser i feddwl am y newid a fu yno dros y canrifoedd.
Roedd dipyn o gerdded i fyny allt am fod o’n blaenau, felly stop am ginio wrth droed camfa i dorri’r ddringfa rhyw fymryn. Yng nghanol y coed a’r tawelwch, braf oedd bod yng nghwmni’n gilydd a thrafod mwy am ein cynlluniau a’n gobeithion i’r dyfodol.
Roedd cyrraedd yr hyfryd Llyn Tecwyn Isaf yn gyfle da am lun neu ddau cyn parhau ymlaen ar ran ola’r daith. Mae’r olygfa odidog yn uchelfannau Eglwys Tecwyn Sant yn gwneud pob cam yn werth ei gymryd. Mae’r eglwys yma’n hyfryd, yn lle tawel, syml, yn le i gael munud i feddwl.
Cyfle i sgwrsio, dod i adnabod ein gilydd yn well. Cyfle i herio’n hun yn gorfforol ar daith diwrnod. Cyfle i werthfawrogi harddwch y wlad a’i hanes ar hyd y daith. Cyfle i brosesu’r hyn a fu ac ystyried yr hyn i ddod. Amser i feddwl, i lonyddu a diolch.
Dyna oedd y dydd yma o bererindod ar hyd Llwybr Cadfan i mi.
5. Harlech – Llandecwyn • Taith y Pererinion » outdooractive.com
