Gweddi Llwybr Cadfan gan ddisgyblion Ysgol Cefn Coch

Plant yn edrych ar bwll

Dad Nefol,

Rydym yn diolch i ti am yr harddwch sydd o’n cwmpas heddiw ac am gael clywed dy lais a gwaith dy ddwylo ym myd natur tra ar ein pererindod.

Diolch i ti am y coed a phob deilen ac am yr adar sydd yn canu ar y brigau uwchben.

Diolch am harddwch y llyn, y pysgod a’r lilis dŵr a’r cerrig, y gwair a’r mwsog ar y tir.

Diolch am y defaid a’r ŵyn a welsom yn crwydro gyda ni ar ein taith. Diolchwn am bob blodyn hardd a’r lliwiau hyfryd a welsom.

Am bob pry bach, am was y neidr, y pryfaid cop, pob lindys a phili pala, pob gwenyn a buwch goch gota, diolchwn i ti am eu creu.

Amen

Gweddi a greuwyd gyda disgyblion B13/4 Ysgol Cefn Coch ar bererindod

Pwll

Share the Post:

Related Posts