Mae’r IPaper wedi rhestru Llwybr Cadfan Pilgrimage Trail fel un o’r teithiau cerdded gorau nad ydych wedi rhoi cynnig arno yn y DU ac Ewrop . Lansiwyd Llwybr Cadfan , a enwyd ar ôl Cadfan Sant o’r 6ed ganrif, ddydd Sadwrn 28 Medi 2024 yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, Gwynedd. Yn ystod y digwyddiad lansio, cychwynnodd 20 o bererinion, gan gynnwys Archesgob Cymru Andrew John, ar gam cyntaf y llwybr. Mae Llwybr Cadfan yn ymestyn 128 milltir (207 km) o Dywyn i Ynys Enlli ac wedi ei ddatblygu gan Esgobaeth Bangor a’i ariannu gan Gronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru. Ei nod yw cynnig cyfle i geiswyr ysbrydol a selogion antur archwilio treftadaeth gyfoethog a harddwch naturiol Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r llwybr llawn, sy’n cymryd tua 12 diwrnod i’w gwblhau, yn cynnwys ymweliadau ag 17 o eglwysi hanesyddol a chwe ffynnon sanctaidd. Mae’n mynd trwy ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ym Meirionydd, Eifionydd, a Phen Llŷn, cyn cyrraedd uchafbwynt yn Ynys Enlli, lleoliad sy’n enwog am ei arwyddocâd ysbrydol. Gwnewch 2025 y flwyddyn y cerddwch Llwybr Cadfan!

