
Arweiniodd Nia Elain Roberts, Swyddog Ymgysylltu Pererindodau Ysgolion Pererin Prosiect Stampiau Llwybr Cadfan rhwng Mehefin 2024 a Chwefror 2025. Derbyniodd dros 600 o ddisgyblion gyflwyniad a gweithdy ar bererindod o fewn ysgolion uwchradd a chynradd ar hyd y llwybr a buont yn dylunio stampiau ar gyfer Pasbort Llwybr Cadfan.

Mae’r disgyblion wedi cynhyrchu gwaith celf arbennig sy’n dathlu’r eglwysi, ffynhonnau, pentrefi a threfi ar hyd y llwybr a gallwch weld y 26 dyluniad buddugol yma ac ychydig o wybodaeth am y safleoedd sy’n gartref i’r stampiau.

Roedd y prosiect stampio yn cyd-fynd â phwyslais y cwricwlwm Cymraeg ar gynefin – y ddealltwriaeth o gymuned, diwylliant, a lle. Mae’r prosiect hwn wedi ymgysylltu ysgolion â bodolaeth Llwybr Cadfan o fewn eu cymuned ac wedi rhoi cyfle iddynt weithio’n drawsgwricwlaidd trwy gyfuno dysgu am dreftadaeth Gristnogol leol wrth ddefnyddio’u doniau creadigol.

Bydd pererinion sy’n cerdded y llwybr yn gallu stampio eu pasbort mewn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybr, gan gasglu dau stamp am bob diwrnod o gerdded, ynghyd â stamp ychwanegol wrth ymweld ag Abaty Cymer, Dolgellau a hefyd Ynys Enlli, cyrchfan olaf y bererindod.

Mae’n bosib prynu’r pasbort ar dudalen siop ein gwefan neu yn Eglwys Cadfan Sant Tywyn, Eglwys Hywyn Sant Aberdaron neu yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor.


Ein siop ar-lein: https://llwybrcadfan.bigcartel.com