Prif Eglwysi Pererinion - Major Pilgrim Churches
Mae’r eglwysi canlynol wedi’u dewis gan eu bod yn eglwysi hanesyddol
hynod arwyddocaol sy’n cynnwys trysorau yr un mor hynod, yn adrodd
straeon sy’n ymestyn dros 1,500 o flynyddoedd o hanes Cymru.
Eglwys Cadfan Sant
Mae Eglwys Cadfan Sant, Tywyn yn enwog am ei bensaernïaeth
Romanésg ac am Garreg Cadfan o'r nawfed ganrif, wedi’i harysgrifio
gyda’r Gymraeg ysgrifenedig hynaf y gwyddys amdani.
Eglwys Hywyn Sant
Roedd Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron yn anheddiad clas o’r chweched
ganrif, sydd bellach yn cynnwys dwy ystlys ganoloesol; dyma oedd man
egyn y pererinion i groesi i Enlli.
Eglwys Beuno Sant
Mae sylfaen Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr yn dyddio i’r seithfed
ganrif; ymosodwyd arni gan y Llychlynwyr a'r Normaniaid, ac erbyn y
bymthegfed ganrif roedd yn eglwys golegol brin ac arwyddocaol.
Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant
Saif Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ar ben neu gerllaw safle myachlog
Deiniol yn y chweched ganrif; mae ganddi gysylltiadau cryf â Gruffudd
ap Cynan, Owain Gwynedd, cyrch y Brenin John i mewn i Wynedd a
gwrthryfel Owain Glyndwr; ac fe'i hailfodelwyd yn sylweddol gan y
pensaer Fictoraidd George Gilbert Scott.
Eglwys Seiriol Sant
Saif Eglwys Seiriol Sant, Penmon yng nghanol adfeilion y priordy
Awstinaidd; mae’n gartref i ddwy groes sefyll sylweddol o’r ddegfed
ganrif.
Eglwys Cybi Sant
Sefydlwyd Eglwys Cybi Sant, Caergybi o fewn muriau caer Rufeinig
adfeiliedig, ymosodwyd arni gan y Llychlynwyr, ac mae ganddi
gysylltiadau cryf â goresgyniad Harri IV o Fôn ym 1405.
Maen nhw i gyd yn safleoedd lle mae Duw wedi dod ar draws ac yn
adnabyddus ers dros dair canrif ar ddeg. O’u sefydlu gan Cadfan,
Hywyn, Beuno, Deiniol, Seiriol a Cybi – chwech o’n seintiau Celtaidd
blaenaf – mae pobl wedi dod i’r mannau hyn i geisio sicrwydd o ffydd
ddyfnach, gobaith cadarnach a chariad sy’n trawsnewid bywyd.
Ni yw etifeddion yr holl geisio a theithio hwn – a’n nod yw sicrhau bod y
chwe eglwys bererindod fawr hyn yn gallu parhau i siarad mewn ffyrdd
cymhellol, efengylaidd â chenhedlaeth heddiw o ffydd a gobaith a
chariad Duw. Fel rhan o Brosiect Llan byddwn yn buddsoddi i wella
ansawdd y croeso ysbrydol, hanesyddol ac efengylaidd yn y mannau
cysegredig hyn i bererinion o bob cefndir ac oed.