{"id":2036,"date":"2025-01-03T08:58:34","date_gmt":"2025-01-03T08:58:34","guid":{"rendered":"https:\/\/pererin.com\/pererindod-o-harlech-i-landecwyn\/"},"modified":"2025-01-03T09:27:52","modified_gmt":"2025-01-03T09:27:52","slug":"pererindod-o-harlech-i-landecwyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/pererin.com\/cy\/pererindod-o-harlech-i-landecwyn\/","title":{"rendered":"Pererindod o Harlech i Landecwyn"},"content":{"rendered":"<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Ar fore Hydrefol braf, dyma neidio ar fws a chyrraedd Harlech yn griw o dair yn barod i brofi rhan o <a href=\"https:\/\/pererin.com\/llwybyr-cadfan\/\">Lwybr Cadfan<\/a> .<\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Cychwyn wrth droed safle gwych Castell Harlech y mae pumed diwrnod pererindod Llwybr Cadfan. I\u2019r chwith o\u2019r castell, wrth gychwyn ar ein taith, dyma stop wrth gerflun a thrafod stori Branwen gyda fy nghyd-gerddwyr gan egluro fod enw fy mab, Gwern yn dod o\u2019r chwedl enwog yma. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Wrth ymlwybro i lawr a dilyn cyfarwyddiadau ar yr ap \u2018Outdoor Active\u2019, dyma adael prysurdeb y dref a chyrraedd llwybr hir trwy gaeau a choedwig. Roedd y sgwrs yn llifo, a\u2019r tair ohonom yn adrodd hanesion am deulu, addysg a\u2019n gwaith a chael manteisio ar amser prin mewn bywyd prysur i ddod i adnabod ein gilydd yn well. <\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Mae\u2019r rhan gyntaf o\u2019r llwybr yma sy\u2019n eich dal ac yn mynnu ennyd i bwyllo a rhyfeddu, yn dod wrth brofi golygfa wych o Afon Dwyryd a Phortmeirion yn y pellter. Mae wir yn rhoi cyfle euraidd i werthfawrogi rhyfeddod Clough Williams-Ellis sy\u2019n denu cymaint i\u2019r ardal. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure id=\"attachment_1706\" aria-describedby=\"caption-attachment-1706\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1706 size-medium\" src=\"https:\/\/pererin.com\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Day-5-Harlech-Llandecwyn-300x225.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/pererin.com\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Day-5-Harlech-Llandecwyn-300x225.jpeg 300w, https:\/\/pererin.com\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Day-5-Harlech-Llandecwyn-1024x768.jpeg 1024w, https:\/\/pererin.com\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Day-5-Harlech-Llandecwyn-768x576.jpeg 768w, https:\/\/pererin.com\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Day-5-Harlech-Llandecwyn-1536x1152.jpeg 1536w, https:\/\/pererin.com\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Day-5-Harlech-Llandecwyn-2048x1536.jpeg 2048w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1706\" class=\"wp-caption-text\">Diwrnod 5 Harlech \u2013 Llandecwyn<\/figcaption><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Ymlaen a ni ac ymlwybro ymhen hir a hwyr i fyny i Eglwys Mihangel Sant, Llanfihangel y Traethau. Eglwys mewn safle braf a chyfle i astudio hen garreg gydag ysgrif Lladin sydd i\u2019w gweld yn y fynwent a chael ennyd i fanteisio ar heddwch tawel yr eglwys i gael ein gwynt atom. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Wrth barhau ar hyd y llwybr, dyma gyrraedd Ynys a safle hen warws diddorol o\u2019r 19eg ganrif. Bu\u2019r tair ohonom yn astudio a thrafod y dirwedd a chael amser i feddwl am y newid a fu yno dros y canrifoedd. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Roedd dipyn o gerdded i fyny allt am fod o\u2019n blaenau, felly stop am ginio wrth droed camfa i dorri\u2019r ddringfa rhyw fymryn. Yng nghanol y coed a\u2019r tawelwch, braf oedd bod yng nghwmni\u2019n gilydd a thrafod mwy am ein cynlluniau a\u2019n gobeithion i\u2019r dyfodol. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Roedd cyrraedd yr hyfryd Llyn Tecwyn Isaf yn gyfle da am lun neu ddau cyn parhau ymlaen ar ran ola\u2019r daith. Mae\u2019r olygfa odidog yn uchelfannau Eglwys Tecwyn Sant yn gwneud pob cam yn werth ei gymryd. Mae\u2019r eglwys yma\u2019n hyfryd, yn lle tawel, syml, yn le i gael munud i feddwl. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Cyfle i sgwrsio, dod i adnabod ein gilydd yn well. Cyfle i herio\u2019n hun yn gorfforol ar daith diwrnod. Cyfle i werthfawrogi harddwch y wlad a\u2019i hanes ar hyd y daith. Cyfle i brosesu\u2019r hyn a fu ac ystyried yr hyn i ddod. Amser i feddwl, i lonyddu a diolch. <\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p class=\"p1\" style=\"margin: 0cm;\"><span class=\"s2\"><span style=\"font-family: 'UICTFontTextStyleBody',serif;\">Dyna oedd y dydd yma o bererindod ar hyd Llwybr Cadfan i mi.<\/span><\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.outdooractive.com\/en\/route\/pilgrim-walk\/north-wales\/5.-harlech-llandecwyn\/275950409\/\">5. Harlech &#8211; Llandecwyn \u2022 Taith y Pererinion \u00bb outdooractive.com<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar fore Hydrefol braf, dyma neidio ar fws a chyrraedd Harlech yn griw o dair yn barod i brofi rhan o Lwybr Cadfan . &nbsp; Cychwyn wrth droed safle gwych Castell Harlech y mae pumed diwrnod pererindod Llwybr Cadfan. I\u2019r chwith o\u2019r castell, wrth gychwyn ar ein taith, dyma stop wrth gerflun a thrafod stori [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":2029,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_themeisle_gutenberg_block_has_review":false,"footnotes":""},"categories":[23],"tags":[],"class_list":["post-2036","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2036","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2036"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2036\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2039,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2036\/revisions\/2039"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2029"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2036"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2036"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/pererin.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2036"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}