Llwybr Cadfan

Llwybr Cadfan
128mi/207km

Tywyn – Ynys Enlli
Taith yw pererindod – ar hyd llwybr, fel arfer i le sanctaidd. Mae’n gyfle i gamu allan o rythm bywyd bob dydd, i gyfuno cerdded â darganfod lleoedd newydd a chwrdd â phobl newydd, ac i fwynhau eiliadau o fyfyrdod a hunanddarganfyddiad.

Dilynwch ôl traed Cadfan Sant, sant o’r 6ed ganrif, ar hyd Llwybr Cadfan – ein taith bererindod 12-diwrnod syfrdanol. Dechreuwch yn nhref arfordirol Tywyn a chrwydrwch lwybr 128 milltir yr holl ffordd i Ynys Enlli. Ynys sydd â phwysigrwydd Cristnogol parhaol ac a elwir yn ‘ynys yr 20,000 o saint’. Ar hyd y daith, fe welwch eglwysi anghysbell, fe gewch deithio ar hyd arfordiroedd creigiog a dramatig, a phrofi harddwch distaw’r mannau sanctaidd.

P’un a ydych yn cerdded holl Llwybr Cadfan neu ran ohono’n unig, cymerwch amser i oedi ac i gofleidio heddwch gwirioneddol y tirweddau hynafol hyn cyn dychwelyd at fywyd bob dydd wedi’ch adnewyddu a’ch adfywio.

Disgrifiadau’r llwybr

Mae pererindod yn ymwneud â chychwyn ar daith, gan ystyried pwysigrwydd a chydbwysedd bywyd bob dydd, wrth deithio trwy leoedd newydd ac anhysbys. Manteisiwch ar y cyfle heddiw
i ddod a cherdded Llwybr Cadfan. Cymerwch amser i oedi, profi natur ac ymweld a'r lleoedd
arbennig, llawn harddwch a heddwch yma. Efallai y byddwch yn dychwelyd i fywyd bob dydd ,gydag ymdeimlad newydd a pharhaol o heddwch.